Llyfr Malachi 1:10
A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Job 1:9Yna Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni DUW?
Isaiah 1:11Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr ARGLWYDD: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.
Jeremiah 6:13Oblegid o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd dod: ac o’r proffwyd hyd yr offeiriad, pob un sydd yn gwneuthur ffalster.
Jeremiah 8:10Am hynny y rhoddaf eu gwrag edd hwynt i eraill, a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno: canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.
Hosea 5:6A’u defaid ac a’u gwartheg y deuant i geisio yr ARGLWYDD, ond nis cânt ef: ciliodd efe oddi wrthynt.
Micah 3:11Ei phenaethiaid a roddant fam er gwobr, a'i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a'r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr ARGLWYDD yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr ARGLWYDD i'n plith? ni ddaw drwg arnom.