Yr Efengyl yn ôl Marc 10:20
Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid.
Beibl (1620)
In The King James Version
And he answered and said unto him, Master, all these have I observed from my youth.
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Marc 10
Cross References
Isaiah 58:2Eto beunydd y’m ceisiant, ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd, fel cenedl a wnelai gyfiawnder, ac ni wrthodai farnedigaeth ei Duw: gofynnant i’ mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nesau at DDUW. º
Ezekiel 33:31Deuant hefyd atat fel y daw y bobl, ac eisteddant o'th flaen fel fy mhobl, gwrandawant hefyd dy eiriau, ond nis gwnant hwy: canys a'u geneuau y dangosant gariad, a'u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd-dod.
Matthew 19:20Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto?
Luke 18:11Y Pharisead o’i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith.
Philippians 3:6Yn ôl sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf, yn ddiargyhoedd.