Yr Efengyl yn ôl Marc 13:15
A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16A’r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Marc 13
Cross References
Genesis 19:22Brysia, dïangc yno; o herwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar.
Job 2:4A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Croen am groen, a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes.
Proverbs 22:3Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir.
Luke 17:31n y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgynned i’w cymryd hwynt; a’r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl.
Acts 27:38Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw’r gwenith allan i’r môr.
Hebrews 11:7Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy’r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd.