Yr Efengyl yn ôl Marc 14:55
A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi ef i’w farwolaeth; ac ni chawsant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Marc 14
Cross References
1 Kings 21:10Cyflewch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn âg ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist DDUW a’r brenin. Ac yna dygwch efallan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw. º
Psalms 27:12Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O ARGLWYDD. 5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. 6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD. 7 Clyw, O ARGLWYDD, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. 8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O ARGLWYDD. 9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi. O DDUW fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr ARGLWYDD a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, ARGLWYDD, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn.
Daniel 6:4Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth: ond ni fedrent gael un achos na bai; oherwydd ffyddlon oedd efe, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai.
Matthew 26:59A’r archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth,
Acts 6:11Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw.
1 Peter 3:16A chennych gydwybod dda, fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio’r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist.