Yr Efengyl yn ôl Marc 6:34
A’r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Marc 6
Cross References
Numbers 27:17Yr hwn a elo allan o’u blaen hwynt, ac a ddelo i mewn o’u blaen hwynt, a’r hwn a’u dygo hwynt allan, ac a’u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynnulleidfa yr Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt.
2 Chronicles 18:16Yna efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i’w dŷ ei hun mewn tangnefedd.
Jeremiah 50:6Fy mhobl a fu fel praidd colledigs eu bugeiliaid a’u gyrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gorweddfa. º
Matthew 9:36¶ A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail.
Matthew 15:32¶ A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.
Romans 15:2Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth.