Yr Efengyl yn ôl Mathew 10:21
A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
20Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch.
22A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 10
Cross References
2 Samuel 16:11A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, Wele fy mab, yr hwn a ddaeth allan o’m hymysgaroedd i, yn ceisio fy einioes: ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo, a melltithied: canys yr Arglwydd a archodd iddo.
Job 19:19Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.
Zechariah 13:3A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a'i fam a'i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr ARGLWYDD: a'i dad a'i fam a'i cenedlasant ef a'i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo.
Matthew 24:10Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd.
Luke 12:51Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i’w roddi ar y ddaear? nage, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael: