Yr Efengyl yn ôl Mathew 16:13
¶ Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi, efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 16
Cross References
Daniel 7:13Mi a welwn mewn gweledigaethau nos, ac wele, megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd; ac at yr hen ddihenydd y daeth, a hwy a’i dygasant ger ei fron ef.
Matthew 9:6Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys,) Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i’th dŷ.
Matthew 12:32A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw.
Matthew 13:37Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, wrthynt, Yr hwn sydd yn hau’r had da, yw Mab y dyn;!
Matthew 15:21¶ A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.
Mark 8:27¶ A’r Iesu a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, i drefi Cesarea Philipi: ac ar y ffordd efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?