Yr Efengyl yn ôl Mathew 20:15
Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?
Beibl (1620)
In The King James Version
Is it not lawful for me to do what I will with mine own? Is thine eye evil, because I am good?
In Context
14Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 20
Cross References
Exodus 33:19Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o’th flaen di: a mi a drugarhâf wrth yr hwn y cymmerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
Deuteronomy 15:9Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw y seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod; a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain o hono ef ar yr Arglwydd rhagot, a’i fod yn bechod i ti.
1 Chronicles 28:4Er hynny ARGLWYDD DDUW Israel a’m hetholodd i o holl dy fy nhad, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac o dŷ Jwda, tŷ fy nhad i; ac o feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel: º
Proverbs 28:22Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi: ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno.
Jonah 4:1A bu ddrwg iawn gan Jona hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr.
Matthew 11:25¶ Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain: