The Bible Software
bible.software › Yr Efengyl yn ôl Mathew › Yr Efengyl yn ôl Mathew 20 › Yr Efengyl yn ôl Mathew 20:21

Yr Efengyl yn ôl Mathew 20:21

Ac efe a ddywedodd wrthi. Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth.

Beibl (1620)

In The King James Version

And he said unto her, What wilt thou? She saith unto him, Grant that these my two sons may sit, the one on thy right hand, and the other on the left, in thy kingdom.

In Context

20¶ Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo.

22A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a’ch bedyddio a’r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.

Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 20

Cross References

1 Kings 3:5Yn Gibeon yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a dywedodd Duw, Gofyn beth a roddaf i ti.

Psalms 45:9Ond ti a’n bwriaist ni ymaith, ac a’n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd.

Jeremiah 45:5Ac a geisi di fawredd i ti dy hun? Na chais: canys wele, myfi a ddygaf ddrwg ar bob cnawd, medd yr ARGLWYDD: ond mi a roddaf i ti dy einioes yn ysglyfaeth ym mha le bynnag yr elych di.

Matthew 19:28A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

Mark 6:22Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a’i rhoddaf i ti.

Mark 10:51A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A’r dall a ddywedodd wrtho, Athro, caffael ohonof fy ngolwg.

This Verse In Other Editions

King James VersionBíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)Библия (Русский)新标点和合本성경 (한국어)聖書 (日本語)الكتاب المقدس باللغة العربية، فان دايكBiblia TakatifuBibbia Diodati (Italiano)Kinh Thánh (Tiếng Việt)Biblia Cornilescu (Română)

Study Yr Efengyl yn ôl Mathew 20:21

Matthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)
← Yr Efengyl yn ôl Mathew 20:20Yr Efengyl yn ôl Mathew 20Yr Efengyl yn ôl Mathew 20:22 →