Yr Efengyl yn ôl Mathew 23:13
¶ Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12A phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 23
Cross References
Isaiah 33:14Pechaduriaid a ofnasant yn Seion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr: pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol? º
Matthew 21:31Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â’r publicanod a’r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi.
Matthew 23:23Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu’r mintys, a’r anis, a’r cwmin, ac a adsawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio.
Matthew 23:27Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid.
Luke 11:43Gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych yn caru’r prif gadeiriau yn y syna-gogau, a chyfarch yn y marchnadoedd.
John 7:46A’r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn.