Yr Efengyl yn ôl Mathew 23:15
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a’r tir, i wneuthur un proselyt, ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 23
Cross References
Matthew 5:22Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern.
John 8:44O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.
Acts 6:5A bodlon fu’r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia:
Acts 13:43Ac wedi gollwng y gynulleidfa, llawer o’r Iddewon ac o’r proselytiaid crefyddol a ganlynasant Paul a Barnabas; y rhai gan lefaru wrthynt, a gyngorasant iddynt aros yng ngras Duw.
Acts 14:19A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl; ac wedi llabyddio Paul, a’i llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod ef wedi marw.
Acts 17:13A phan wybu’r Iddewon o Thesa¬lonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi’r dyrfa.