Yr Efengyl yn ôl Mathew 26:63
Ond yr Iesu a dawodd. A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 26
Cross References
Leviticus 5:1ac mewn pechodau o anwybod. Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.
1 Samuel 14:24A gwŷr Israel oedd gyfyng amynt y dydd hwnnw: oherwydd tyngedasai Saul y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fy ngelynion. Felly nid archwaethodd yr un o’r bobl ddim bwyd. º
1 Samuel 14:28Yna un o’r bobl’ a atebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw. A’r bobl oedd luddedig. º
2 Chronicles 18:15A’r brenin a ddywedodd wrtho. Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di, na lefarech wrthyf fi ond gwirionedd yn enw yr ARGLWYDD?
Psalms 38:12Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.
Isaiah 9:6Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. º