Yr Efengyl yn ôl Mathew 4:18
¶ A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; canys pysgodwyr oeddynt:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 4
Cross References
Exodus 3:10Tyred gan hynny yn awr, a mi a’th anfonaf at Pharaoh; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o’r Aipht.
Deuteronomy 3:17Hefyd y rhos, a’r Iorddonen, a’r terfyn o Cinnereth, hyd fôr y rhos, sef y môr heli, dan Asdoth-Pisgah, tu a’r dwyrain.
1 Kings 19:19Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, a deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef. º
Amos 7:14Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid profiwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion:
Matthew 10:2Ac enwau’r deuddeg apostolion yw’r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd;
Matthew 16:18Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.