Yr Efengyl yn ôl Mathew 6:1
Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 6
Cross References
Deuteronomy 24:13Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y’th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.
2 Kings 10:31Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith ARGLWYDD DDUW Israel a’i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. º
Ezekiel 33:31Deuant hefyd atat fel y daw y bobl, ac eisteddant o'th flaen fel fy mhobl, gwrandawant hefyd dy eiriau, ond nis gwnant hwy: canys a'u geneuau y dangosant gariad, a'u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd-dod.
Zechariah 7:5Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru. Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a'r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi?
Matthew 5:16Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Matthew 5:48Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.