Yr Efengyl yn ôl Mathew 9:27
¶ A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
26A’r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 9
Cross References
Matthew 11:5Y mae’r deillion yn gweled eilwaith, a’r cloffion yn rhodio, a’r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a’r byddariaid yn clywed; y mae’r meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt.
Matthew 15:22Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul.
Matthew 20:30Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.
Matthew 21:15A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a’r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant,
Mark 8:22¶ Ac efe a ddaeth i Fethsaida; a hwy a ddygasant ato un dall, ac a ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef,
Mark 10:46¶ A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, efe a’i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimeus ddall, mab Timeus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardota.