Llyfr Nehemeia 1:9
Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy ngorchmynion, a’u gwneuthur hwynt, pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd, eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno, ac a’u dygaf i’r lle a etholais i drigo o’m henw ynddo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10A hwy ydynt dy weision a’th bobl, y rhai a waredaist â’th fawr allu, ac â’th law nerthol.
Cross References
Leviticus 26:39A’r rhai a weddillir o honoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyd â hwynt y toddant.
Deuteronomy 4:30Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diweddaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef:
Deuteronomy 12:21Os y lle a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo, fydd pell oddi wrthyt; yna lladd o’th wartheg, ac o’th ddefaid, y rhai a roddodd yr Arglwydd i ti, megis y gorchymynais i ti, a bwytta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon.
Deuteronomy 30:2A dychwelyd o honot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef, yn ol yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddyw, ti a’th blant, â’th holl galon, ac â’th holl enaid:
1 Kings 9:3A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol. º
Ezra 6:12A’r Duw, yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo DUW yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.