Llyfr Nehemeia 10:29
Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith DDUW, yr hon a roddasid trwy law Moses gwas DUW: ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr ARGLWYDD ein Harglwydd ni, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
30Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad: ac na chymerem eu merched hwy i’n meibion ni:
Cross References
Leviticus 20:26Byddwch chwithau sanctaidd i mi: o herwydd myfi yr Arglwydd ydwyf sanctaidd, ac a’ch neillduais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.
Deuteronomy 5:32Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchymynodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: na chiliwch i’r tu dehau nac i’r tu aswy.
Deuteronomy 29:12I fyned o honot dan gyfammod yr Arglwydd dy Dduw, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur â thi heddyw:
2 Kings 10:31Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith ARGLWYDD DDUW Israel a’i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. º
1 Chronicles 9:2Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Nethiniaid. º
2 Chronicles 15:13A phwy bynnag ni cheisiai AR GLWYDD DDUW Israel, fod ei roddi ef i farwolaeth, yn fychan ac yn fawr, yn ŵr ac yn wraig.