Llyfr Nehemeia 10:31
Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i’w werthu, na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth, neu ar y dydd sanctaidd; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn, a chodi pob dyled.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
30Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad: ac na chymerem eu merched hwy i’n meibion ni:
Cross References
Exodus 20:10Ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaeth-ferch, na’th anifail, na’th ddïeithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:
Exodus 34:16A chymmeryd o honot o’u merched i’th feibion; a phutteinio o’u merched ar ol eu duwiau hwynt, a gwneuthur i’th feibion di butteinio ar ol eu duwiau hwynt.
Leviticus 23:3Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a’r seithfed dydd y bydd Sabbath gorphwystra, sef cymmanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Sabbath yw efe i’r Arglwydd yn eich holl drigfannau.
Leviticus 23:35Ar y dydd cyntaf y bydd cymmanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch.
Deuteronomy 5:12Cadw y dydd Sabbath i’w sancteiddio ef, fel y gorchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
Deuteronomy 15:7¶ Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chau dy law oddi wrth dy frawd tlawd: