Llyfr Nehemeia 12:43
A’r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys DUW a’u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a’r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 15:20¶ A Miriam y brophwydes, chwaer Aaron, a gymmerodd dympan yn ei llaw, a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hol hi, â thympanau ac â dawnsiau.
Deuteronomy 12:11Yna y bydd lle wedi i’r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo, i beri i’w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poeth-offrymmau, a’ch aberthau, eich degymmau, a dyrchafael-offrwm eich llaw, a’ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i’r Arglwydd.
1 Chronicles 29:21Aberthasant hefyd ebyrth i’r AR-GLWYDD, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr abenhasant yn boethoffrymmau i’r ARGLWYDD, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o wyn, a’u diod-offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel: º
2 Chronicles 7:10Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei pobl.
2 Chronicles 20:27Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem, a Jehosaffat yn flaenor iddynt, i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd; canys yr ARGLWYDD a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion.
Ezra 3:13Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain wylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a’r sŵn a glywid ymhell.