Llyfr Nehemeia 12:44
A’r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid a’r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 8:24Dyma yr hyn a berthyn i’r Lefiaid: o fab pùm mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth y’ngwasanaeth pabell y cyfarfod.
1 Chronicles 9:26Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ DDUW. º
1 Chronicles 26:20Ac o’r Lefiaid, Ahia oedd ar drysorau tŷ DDUW, ac ar drysorau y pethau cysegredig., º
2 Chronicles 5:11A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr; canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosbarthiad:
2 Chronicles 31:11A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a hwy a’u paratoesant,
Nehemiah 10:37A blaenion ein toes, a’n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein DUW, a degwm ein tir i’r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni.