Llyfr Nehemeia 2:20
Yna yr atebais hwynt, ac y dywedais wrthynt, DUW y nefoedd, efe a’n llwydda ni; a ninnau ei weision ef a gyfodwn, ac a adeiladwn: ond nid oes i chwi ran, na chyfiawnder, na choffadwriaeth yn Jerwsalem.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 28:29A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i’r cyssegr, yn goffadwriaeth ger bron yr Arglwydd yn wastadol.
Leviticus 24:7A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.
2 Chronicles 26:5Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw: a’r dyddiau y ceisiodd efe yr ARGLWYDD, Duw a’i llwyddodd ef.
Nehemiah 1:4A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd;
Esther 4:11Holl weision y brenin, a phobl taleithiau y brenin, ydynt yn gwybod, mat pa ŵr bynnag, neu wraig, a ddelo i mewn at y brenin i’r cyntedd nesaf i mewn, heb ei alw, un o’i gyfreithiau cf yw ei farwolaethu ef, oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni’m galwyd i ddyfod i mewn at y brenin, bellach er ys deng niwrnod ar hugain.