Llyfr Nehemeia 2:8
A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i’r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i’r tŷ yr elwyf iddo. A’r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy NUW arnaf fi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ezra 5:5A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius; ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn.
Ezra 6:22Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd: canys yr ARGLWYDD a’u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy, i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ DDUW, DUW Israel.
Ezra 7:9Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei DDUW gydag ef.
Nehemiah 2:17Yna y dywedais wrthynt, Yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo, fod Jerwsalem wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu llosgi â thân: deuwch, ac adeiladwn fur Jerwsalem, fel na byddom mwyach yn waradwydd.
Nehemiah 3:1Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd, a’i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeiladasant borth y defaid; hwy a’i cysegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef; ie, hyd dŵr Mea y cysegrasant ef, a hyd dŵr Hananeel.
Proverbs 21:1Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr ARGLWYDD: efe a’i try hi lle y mynno.