Llyfr Nehemeia 3:26
A’r Nethiniaid, y rhai oedd yn trigo yn Offel, hyd ar gyfer porth y dwfr, tua’r dwyrain, a’r tŵr oedd yn myned allan.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Chronicles 9:2Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Nethiniaid. º
2 Chronicles 33:14Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du’r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a’i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda.
Nehemiah 3:27Ar ei ôl yntau y Tecoiaid a gyweiriasant fesur arall, ar gyfer y tŵr mawr sydd yn myned allan, hyd fur Offel.
Nehemiah 8:1A’r holl bobl a ymgasglasant o un fryd i’r heol oedd o flaen porth y dwfr, ac a ddywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd, am ddwyn llyfr cyfraith Moses, yr hon a orchmynasai yr ARGLWYDD i Israel.
Nehemiah 8:16Felly y bobl a aethant allan, ac a’u dygasant, ac a wnaethant iddynt fythod, bob un ar ei nen, ac yn eu cynteddoedd, ac yng nghynteddoedd tŷ DDUW, ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth Effraim.
Nehemiah 11:21Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr: Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid.