Llyfr Nehemeia 4:17
Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur, ac yn dwyn beichiau, a’r rhai oedd yn llwytho, oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith, ac a’r llaw arall yn dal arf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Nehemiah 4:13Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf, o’r tu ôl i’r mur, ac yn y lleoedd uchaf; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl, â’u cleddyfau, â’u gwaywffyn, ac a’u bwâu.
Daniel 9:25Gwybydd gan hynny a deall, y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain: yr heol a adeiledir drachefn, a’r mur, sef mewn amseroedd blinion.
1 Corinthians 9:12Os yw eraill yn gyfranogion o’r awdurdod hon arnoch, onid ydym ni yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bob peth, fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist.
1 Corinthians 16:13Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch.
Ephesians 6:11Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.
2 Timothy 2:3Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist.