Llyfr Nehemeia 6:16
A phan glybu ein holl elynion ni hynny, a gweled o’r holl genhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch, hwy a ofnasant, ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun: canys gwybuant mai trwy ein DUW ni y gwnaethid y gwaith hwn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15A’r mur a orffennwyd ar y pumed dydd ar hugain o Elul, mewn deuddeng niwrnod a deugain.
Cross References
Exodus 14:25Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Aiphtiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aiphtiaid.
Joshua 2:9A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r Arglwydd i chwi y wlad; o herwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonnasant rhag eich ofn.
Joshua 5:1Angel yn ymddangos i Josua. Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tu a’r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd yspryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.
Nehemiah 4:1Pan glybu Sanbalat ein bod ni yn adeiladu y mur, efe a gynddeiriogodd ynddo, ac a lidiodd yn ddirfawr, ac a watwarodd yr Iddewon.
Nehemiah 6:1A phan glybu Sanbalat, a Thobeia, a Gesem yr Arabiad, a’r rhan arall o’n gelynion, adeiladu ohonof fi y mur, ac nad oedd adwy wedi ei gadael ynddo; (er na osodaswn i y pryd hwnnw y dorau ar y pyrth;)
Psalms 126:2Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr ARGLWYDD o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.