Llyfr Nehemeia 8:15
Ac y dylent gyhoeddi, a gyrru gair trwy eu holl ddinasoedd, a thrwy Jerwsalem, gan ddywedyd, Ewch i’r mynydd, a dygwch ganghennau olewydd, a changau pinwydd, a changau y myrtwydd, a changau y palmwydd, a changhennau o’r prennau caeadfrig, i wneuthur bythod, fel y mae yn ysgrifenedig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 8:11A’r golommen a ddaeth atto ef ar brydnawn; ac wele ddeilen olew-wydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noah dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear.
Leviticus 23:40A’r dydd cyntaf cymmerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhêwch ger bron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod.
Judges 9:48Ac Abim;lech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a’r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o’r coed, ac a’i cymerth hi, ac a’i gosododd ar ei ysg-wydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau. º
John 12:13A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenhin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.