The Bible Software
bible.software › Llyfr Nehemeia › Llyfr Nehemeia 8 › Llyfr Nehemeia 8:17

Llyfr Nehemeia 8:17

A holl gynulleidfa y rhai a ddychwelasent o’r caethiwed, a wnaethant fythod, ac a eisteddasant yn y bythod: canys er dyddiau Josua mab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethai meibion Israel felly. Ac yr oedd llawenydd mawr iawn.

Beibl (1620)

In The King James Version

And all the congregation of them that were come again out of the captivity made booths, and sat under the booths: for since the days of Jeshua the son of Nun unto that day had not the children of Israel done so. And there was very great gladness.

In Context

16Felly y bobl a aethant allan, ac a’u dygasant, ac a wnaethant iddynt fythod, bob un ar ei nen, ac yn eu cynteddoedd, ac yng nghynteddoedd tŷ DDUW, ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth Effraim.

18Ac Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith DDUW beunydd, o’r dydd cyntaf hyd y dydd diwethaf. A hwy a gynallasant yr ŵyl saith niwrnod; ac ar yr wythfed dydd y bu cymanfa, yn ôl y ddefod.

Read all of Llyfr Nehemeia 8

Cross References

Deuteronomy 16:15Saith niwrnod y cedwi wyl i’r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylaw; am hynny bydd dithau lawen.

1 Chronicles 29:22Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i’r ARGLWYDD yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad. º

2 Chronicles 8:13I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau arbennig, dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll.

2 Chronicles 30:23A’r holl gynulleidfa a ymgyngorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill: felly y cynaliasant saith o ddyddiau eraill trwy lawenydd.

2 Chronicles 35:18Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er dyddiau Samuel y proffwyd: ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i’r Pasg a gynhaliodd Joseia, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a holl Jwda, a’r neb a gafwyd o Israel, a thrigolion Jerw¬salem.

John 1:14A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a driogodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.

This Verse In Other Editions

King James VersionBíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)Библия (Русский)新标点和合本성경 (한국어)الكتاب المقدس باللغة العربية، فان دايكBibbia Diodati (Italiano)Kinh Thánh (Tiếng Việt)Biblia Cornilescu (Română)Polish Biblia Gdanska (1881)Statenvertaling (Nederlands)

Study Llyfr Nehemeia 8:17

Matthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)
← Llyfr Nehemeia 8:16Llyfr Nehemeia 8Llyfr Nehemeia 8:18 →