Llyfr Nehemeia 9:1
Ac ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis hwn, meibion Israel a ymgynullasant mewn ympryd, ac mewn sachlliain, a phridd arnaddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 23:39Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, pan gynhulloch ffrwyth eich tir, cedwch wyl i’r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorphwystra ar y dydd cyntaf, a gorphwystra ar yr wythfed dydd.
Judges 20:26Yna holl feibion Israel a’r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ DDUW, ac a wylasant, ac a arosasant yno gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr ARGLWYDD. º
2 Samuel 1:2Yna y trydydd dydd, wele ŵr yn dyfod o’r gwersyll oddi wrth Saul, a’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben: a phan ddaeth efe at Dafydd, efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymodd.
2 Chronicles 20:3A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr ARGLWYDD; ac a gyhoeddodd ymipryd trwy holl Jwda.
Ezra 8:23Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd amom.
Esther 4:3Ac ym mhob talaith a lle a’r y daethai gair y brenin a’i orchymyn iddo, yr oedd galar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, ac wylofain, ac oernad; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw.