Llyfr Nehemeia 9:15
Bara hefyd o’r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o’r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thi a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 16:4¶ Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, mi a wlawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnant.
Exodus 16:15Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i’w fwytta.
Exodus 17:6Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan o honi, fel y gallo y bobl yfed. A Moses a wnaeth felly y’ngolwg henuriaid Israel.
Numbers 20:7¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
Deuteronomy 1:21Wele, yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o’th flaen: dos i fynu a pherchennoga hi, fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrhâ.
Deuteronomy 8:15Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirph tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr;