Llyfr Nehemeia 9:19
Er hynny, yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd, i’w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na’r golofn dân trwy y nos, i oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 13:21A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.
Numbers 9:15¶ Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmmwl a gauodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore.
Numbers 9:21Hefyd os byddai y cwmmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o’r cwmmwl y bore, hwythau a symmudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai y cwmmwl, yna y cychwynent.
1 Samuel 12:22Canys ni wrthyd yr ARGLWYDD ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i’r ARGLWYDD eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun. º
Nehemiah 9:27Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr, y rhai a’u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan waeddasant arnat, a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a’u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr.
Psalms 106:7Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.