Llyfr Nehemeia 9:25
A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn, a daear fras, ac a feddianasant dai llawn o bob daioni, pydewau cloddiedig, gwinllannoedd, ac olewyddlannoedd, a choed ffrwythlon yn aml; a hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a frasawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 13:27A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddïau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef.
Deuteronomy 6:10Ac fe a dderfydd, wedi i’r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,
Deuteronomy 8:7Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;
Deuteronomy 32:13Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwytta cnwd y maes, a sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestr;
Deuteronomy 32:15¶ A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddïystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.
1 Kings 14:9Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i, bawb a fu o’th flaen di; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr, a delwau toddedig, i’m digio i, ac a’m teflaist i o’r tu ôl i’th gefn: º