Llyfr Nehemeia 9:28
Ond pan lonyddodd arnynt, dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynny yn llaw eu gelynion, y rhai a arglwyddiaethasant arnynt: eto pan ddychwelasant, a gweiddi arnat, tithau o’r nefoedd a wrandewaist, ac a’u gwaredaist hwynt yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amseroedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Judges 2:19A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig.
Judges 3:30Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel. A’r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd.
Judges 5:31Felly y darfyddo am dy holl elynion, O ARGLWYDD: a bydded y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.
1 Kings 8:39Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a maddau, gwna hefyd, a dyro i bob un yn ôl ei holl flyrdd, yr hwn yr adwaenost ei galon; (canys ti yn unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion;) º
Psalms 106:43Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.