Llyfr Nehemeia 9:29
A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i’w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 10:3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
Deuteronomy 4:26Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.
Deuteronomy 31:27Canys mi a adwaen dy wrth-nysigrwydd, a’th wàr-galedrwydd: wele, a myfi etto yn fyw gyd â chwi heddyw, gwrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?
2 Kings 17:13Er i’r ARGLWYDD dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a’m deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau, a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi. º
2 Chronicles 24:19Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i’w troi hwynt at yr AR GLWYDD; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy.
Nehemiah 9:10A thi a wnaethost arwyddion a rhyfeddodau ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar holl bobl ei wlad ef: canys gwybuost i’r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt. A gwnaethost i ti enw, fel y gwelir y dydd hwn.