Llyfr Numeri 9:14
A phan ymdeithio dïeithr gyd â chwi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r Arglwydd; fel y byddo deddf y Pasc a’i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i’r dïeithr ac i’r un fydd a’i enedigaeth o’r wlad.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 12:48A phan arhoso dïeithr gyd â thi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r Arglwydd, enwaeder ei holl wrrywiaid ef, ac yna nesâed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwyttâed neb dïenwaededig o hono.
Leviticus 19:10Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gâd hwynt i’r tlawd ac i’r dïeithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.
Leviticus 24:22Bydded un farn i chwi; bydded i’r dïeithr, fel i’r prïodor: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw.
Deuteronomy 29:11Eich plant, eich gwragedd, a’th dïeithr- ddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymmynydd dy goed hyd wchynnydd dy ddwfr:
Ezra 6:21A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o’r gaethglud, a phob un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy, i geisio ARGLWYDD DDUW Israel, a fwytasant,
Ephesians 2:19Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd-ddinasyddion â'r saint, ac yn deulu Duw;