Llythyr Paul at y Philipiaid 3:21
Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â'i gorff gogoneddus ei, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at y Philipiaid 3
Cross References
Isaiah 25:8Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagraa oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a’i llefarodd. º
Hosea 13:14O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt; byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg.
Matthew 22:29A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw.
John 5:25Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae’r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw.
Romans 8:29Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf-anedig ymhlith brodyr lawer.
1 Corinthians 15:42Felly hefyd y mae atgyfodiad meirw. Efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth: