Llythyr Paul at y Philipiaid 3:9
Ac y'm ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at y Philipiaid 3
Cross References
Genesis 7:23Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ïe, dilëwyd hwynt o’r ddaear: a Noah a’r rhai oedd gyd âg ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.
Deuteronomy 27:26Melldigedig yw yr hwn ni pharhao y’ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.
2 Chronicles 32:25Ond ni thalodd Heseceia drachefn yn ôl yr hyn a roddasid iddo; canys ei galon ef a ddyrchafodd: a digofaint a ddaeth arno ef, ac ar Jwda a Jerwsalem.
Job 9:28Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na’m berni yn wirion.
Job 15:14Pa beth yw dyn, i fod yn lân? a’r hwn a aned o wraig, i fod yn gyfiawn?
Psalms 14:3Edrych, a chlyw fi, O ARGLWYDD fy NUW; ac goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau: