Llyfr y Diarhebion 23:29
I bwy y mae gwae? i bwy y mae ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gwelïau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
28Ie, hi a gynllwyn fel gwilliad; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion.
30I’r neb sydd yn aros wrth y gwin: i’r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig.
Read all of Llyfr y Diarhebion 23
Cross References
Genesis 49:12Coch fydd ei lygaid gan win, a gwỳn fydd ei ddannedd gan laeth.
2 Samuel 13:28Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion.
Proverbs 20:1Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth.
Isaiah 5:11Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni enynno y gwin hwynt.
Isaiah 28:7Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a’r proffwyd a gyfeil¬iornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn. º
Matthew 24:49A dechrau curo ei gyd-weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon;