Llyfr y Diarhebion 8:13
Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.
14Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.
Read all of Llyfr y Diarhebion 8
Cross References
1 Samuel 2:3Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr ARGLWYDD, a’i amcanion ef a gyflawnir.
Psalms 5:4Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela.
Psalms 101:3Gwybyddwch mai yr ARGLWYDD sydd DDUW: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.
Proverbs 4:24Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.
Proverbs 6:16Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr ARGLWYDD: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef: