The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 100

1YR ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear.

2Mawr yw yr ARGLWYDD yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.

3Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.

4A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyflawnder a wnei di yn Jacob.

5Dyrchefwch yr ARGLWYDD ein DUW; ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw.

6Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw; galwasant ar yr ARGLWYDD, ac efe a’u gwrandawodd hwynt.

7Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt.

8Gwrandewaist arnynt, O ARGLWYDD ein Duw: DUW oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion.

9Dyrchefwch yr ARGLWYDD ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr ARGLWYDD ein Duw.

← Llyfr y Salmau 99Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 101 →

Study Llyfr y Salmau 100

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150