Llyfr y Salmau 106:44
Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
Nevertheless he regarded their affliction, when he heard their cry:
In Context
43Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.
45Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cyhalient ei gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.
Read all of Llyfr y Salmau 106
Cross References
Judges 3:9A meibion Israel a waeddasant ar yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a’u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef.
Judges 6:6Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD.
Judges 6:8Yr ARGLWYDD a anfonodd broffwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt. Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a’ch dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac a’ch arweiniais chwi o dy y caethiwed;
1 Samuel 7:8A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel, Na thaw di â gweiddi drosom at yr ARGLWYDD ein Duw, ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid.
2 Kings 14:26Canys yr ARGLWYDD a welodd gystudd Israel yn flin iawn: canys nid oedd neb gwarchaeëdig, na neb wedi ei adael, na chynorthwyydd i Israel. º
Nehemiah 9:27Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr, y rhai a’u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan waeddasant arnat, a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a’u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr.