The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 109

1Cân neu Salm Dafydd. Parod yw fy nghalon, O DDUW: canaf a chanmolaf â’m gogoniant.

2Deffro, y nabl ar delyn: minnau a deffroaf yn fore.

3Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.

4Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.

5Ymddyrcha, O DDUW, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;

6Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.

7DUW a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.

8Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.

9Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia.

10Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom?

11Onid tydi, O DDUW, yr hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O DDUW, gyda’n lluoedd?

12Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.

13Trwy DDUW y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.

← Llyfr y Salmau 108Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 110 →

Study Llyfr y Salmau 109

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150