The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 120

1ALEFF. Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD.

2Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon.

3Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.

4Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal.

5O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau!

6Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion.

7Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.

8Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.

9BETH. Pa fodd y glanha lanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.

10A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.

11Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn.

12Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.

13A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.

14Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud.

15Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.

16Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.

17GIMEL. Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

18Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di.

19Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.

20Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser.

21Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.

22Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.

23Tywysogion hefyd a eisteddasant ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau.

24A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.

25DALETH. Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air.

26Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.

27Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.

28Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air.

29Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.

30Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen.

31Glynais wrth dy dystiolaethau: O ARGLWYDD, na’m gwaradwydda.

32Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon

33HE. Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.

34Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon.

35Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.

36Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra.

37Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.

38Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di.

39Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.

40Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

41FAU. Deued i mi dy drugaredd, ARGLWYDD, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air.

42Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.

43Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.

44A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.

45Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf.

46Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf.

47Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais.

48A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.

49SAIN. Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.

50Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i.

51Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.

52Cofiais, O ARGLWYDD, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.

53Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.

54Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod.

55Cofiais dy enw, ARGLWYDD, y nos; a chedwais dy gyfraith.

56Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.

57CHETH. O ARGLWYDD, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau.

58Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air.

59Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.

60Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion.

61Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.

62Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.

63Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion.

64Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy ddeddfau.

65TETH. Gwnaethost yn dda i’th was, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.

66Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.

67Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.

68Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.

69Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon.

70Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.

71Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.

72Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.

73IOD. Dy ddwylo a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.

74Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.

75Gwn, ARGLWYDD, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist.

76Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr.

77Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.

78Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos, ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di.;

79Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.

80Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.

81CAFF. Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.

82Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni?

83Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau.

84Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant?

85Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.

86Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi.

87Braidd na’m difasant ar y daear; minnau ni adewais dy orchmynion.

88Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.

89LAMED. Yn dragywydd, O ARGLWYDD, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.

90Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.

91Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.

92Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.

93Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist.

94Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais.

95Y rhai annunwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.

96Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.

97MEM. Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.

98A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi.

99Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.

100Deellais yn well na’r henuriaid, fy mod yn cadw dy orchmynion di.

101Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.

102Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist.

103Mor felys yw dy eiriau i’m genau, melysach na mêl i’m safn.

104Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

105NUN. Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr.

106Tyngais, a chyfiawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.

107Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.

108Atolwg, ARGLWYDD, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.

109Y mae fy enaid yn fy law yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.

110Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.

111Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth - oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.

112Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.

113SAMECH. Meddyliau ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais.

114Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.

115Ciliwch oddi wrthyf, rai dryg ionus: canys cadwaf orchmynion fy NUW.

116Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.

117Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.

118Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.

119Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau.

120Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

121AIN. Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr.

122Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu.

123Fy llygaid a ballasant am dy iawchadwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.

124Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.

125Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall fel y gwypwyf dy dystiolaethau.

126Amser yw i’r ARGLWYDD weithio: diddymasant dy gyfraith di.

127Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.

128Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.

129PE. Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.

130Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.

131Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di.

132Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw.

133Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: na lywodraethed dim anwiredd arnaf.

134Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.

135Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau.

136Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

137TSADI. Cyfiawn ydwyt ti, O ARGLWYDD, ac uniawn yw dy farnedigaethau.

138Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.

139Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di.

140Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi.

141Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion.

142Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd.

143Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch.

144Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.

145COFF. Llefais â’m holl galon; clyw fi, O ARGLWYDD: dy ddeddfau a gadwaf.

146Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau.

147Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais

148Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.

149Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.

150Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.

151Tithau, ARGLWYDD, wyt agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd.

152Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.

153RESH. Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.

154Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air.

155Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.

156Dy drugareddau, ARGLWYDD, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.

157Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.

158Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di.

159Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: ARGLWYDD, bywha fi ôl yn ôl dy drugarowgrwydd.

160Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.

161SCHIN. Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.

162Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer.

163Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais.

164Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau.

165Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.

166Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O ARGLWYDD; a gwneuthum dy orchmynion.

167Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.

168Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.

169TAU. Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, ARGLWYDD: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.

170Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.

171Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.

172Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder.

173Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais.

174Hiraethais, O ARGLWYDD, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch.

175Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.

176Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.

← Llyfr y Salmau 119Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 121 →

Study Llyfr y Salmau 120

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150