The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 123

1Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd. Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr ARGLWYDD.

2Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem.

3Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun.

4Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr ARGLWYDD, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr ARGLWYDD.

5Canys yno y gosodwyd gorseddbarn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd.

6Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant.

7Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau.

8Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti.

9Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD ein DUW, y ceisiaf i ti ddaioni.

← Llyfr y Salmau 122Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 124 →

Study Llyfr y Salmau 123

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150