Llyfr y Salmau 125
1Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd. Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr;
2Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn:
3Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn:
4Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid:
5Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig.
6Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt.
7Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom.
8Ein porth ni sydd yn enw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
Study Llyfr y Salmau 125
KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)
All Chapters
123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150