Llyfr y Salmau 126:2
Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr ARGLWYDD o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr y Salmau 126
Cross References
Joshua 2:9A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r Arglwydd i chwi y wlad; o herwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonnasant rhag eich ofn.
Ezra 3:11A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu tŷ yr ARGLWYDD.
Job 8:21Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd.
Psalms 51:14Abertha foliant i DDUW; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau:
Isaiah 35:10A gwaredigion yr ARGLWYDD a ddychwelant, ac a ddeuant i Seion a chaniadau, ac a llawenydd tragwyddol ar eu pen: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar a ffy ymaith.