The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 139

1Clodforaf di â'm holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti.

2Ymgrymaf tua'th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.

3Y dydd y llefais, y'm gwrandewaist; ac a'm cadarnheaist â nerth yn fy enaid.

4Holl frenhinoedd y ddaear a'th glodforant, O ARGLWYDD, pan glywant eiriau dy enau.

5Canant hefyd am ffyrdd yr ARGLWYDD: canys mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.

6Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell.

7Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a'm bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a'th ddeheulaw a’m hachubai.

8Yr ARGLWYDD a gyflawna â mi: dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.

← Llyfr y Salmau 138Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 140 →

Study Llyfr y Salmau 139

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150