The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 15

1I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un DUW. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni.

2Yr ARGLWYDD a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â DUW.

3Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.

4Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr ARGLWYDD.

5Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae DUW yng nghenhedlaeth y cyfiawn.

6Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr ARGLWYDD yn obaith iddo.

7Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr ARGLWYDD gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.

← Llyfr y Salmau 14Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 16 →

Study Llyfr y Salmau 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150