The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 58

1I'r Pencerdd, Al-taschith, Michtam. Dafydd, pan ffodd rhag Saul i'r ogof. Trugarha wrthyf, O DDUW, trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio.

2Galwaf ar DDUW Goruchaf; ar DDUW a gwblha â mi.

3Efe a enfyn o'r nefoedd, ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd.

4Fy enaid sydd ymysg llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a'u tafod yn gleddyf llym.

5Ymddyrcha, DDUW, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.

6Darparasant rwyd i'm traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela.

7Parod yw fy nghalon, O DDUW, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.

8Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore.

9Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.

10Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.

11Ymddyrcha, DDUW, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr ddaear.

← Llyfr y Salmau 57Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 59 →

Study Llyfr y Salmau 58

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150