Llyfr y Salmau 81:5
Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Oarglwydd DDUW y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl?
6Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun.
Cross References
Exodus 12:12O herwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aipht y nos hon, ac a darawaf bob cyntaf-anedig o fewn tir yr Aipht, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aipht: myfi yw yr Arglwydd.
Exodus 12:29¶ Ac ar hanner nos y tarawodd y Arglwydd bob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig Pharaoh yr hwn a eisteddai ar ei frenhin-faingc, hyd gyntaf-anedig y gaethes oedd yn y carchardy; a phob cyntaf-anedig i anifail.
Exodus 13:14A phan ofynno dy fab ar ol hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed.
Deuteronomy 28:49Yr Arglwydd a ddwg i’th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr, cenedl yr hon ni ddealli ei hiaith;
Psalms 78:6Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal.
Psalms 114:1Molwch yr ARGLWYDD. Gweision yr ARGLWYDD, molwch, ie, molwch enw yr ARGLWYDD.