Llyfr y Salmau 95:8
Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?
Beibl (1620)
In The King James Version
Harden not your heart, as in the provocation, and as in the day of temptation in the wilderness:
In Context
7Dywedant hefyd, Ni wêl yr ARGLWYDD; ac nid ystyria DUW Jacob hyn.
9Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
Cross References
Exodus 17:2Am hynny y bobl a ymgynhennasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr Arglwydd?
Numbers 14:11¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pa hyd y digia y bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith?
Numbers 14:27Pa hyd y cyd-ddygaf a’r gynnulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn.
Deuteronomy 1:34A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,
1 Samuel 6:6A phaham y cailedwch chwi eich calonnau, megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy, oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith?
Acts 19:9Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws, efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt, ac a neilltuodd y disgyblion; gan ymresymu, beunydd yn ysgol un Tyrannus.